Yr wythnos diwethaf cynhaliodd y Gymdeithas Rhwydweithiau Ynni (ENA) Fforwm Ynni Cymunedol cyntaf y flwyddyn, gyda’r thema ‘Cael ein rhwydweithiau i fod yn Sero Net’. Y fforwm hwn, a gyflwynwyd y llynedd, yw’r cyntaf o nifer o fforymau a fydd yn cael eu cynnal yn 2021 i helpu’r rhwydweithiau i glywed lleisiau grwpiau cymunedol.
Mae prosiectau a grwpiau ynni cymunedol yn hanfodol wrth drawsnewid i fod yn rhwydwaith ynni carbon isel sy’n fwy datganoledig ac wrth gyflawni targed Sero Net uchelgeisiol y Llywodraeth. Bydd cynnal fforymau i glywed am safbwyntiau ynni cymunedol yn galluogi ENA i ymgysylltu a chydweithio mewn ffordd fwy ystyrlon, gan sicrhau ein bod yn cyflawni’r trawsnewid gyda’n gilydd ac yn dod â phawb gyda ni ar y daith.
Daeth 30 o gynrychiolwyr ynni cymunedol o bob cwr o’r DU at ei gilydd ar Zoom mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Regen, yr arbenigwyr ynni cymunedol ac ymgysylltu, gyda chefnogaeth a mewnbwn Ynni Cymunedol Lloegr, i ddarparu adborth uniongyrchol ar waith ENA.
Yn dilyn cyflwyniadau, clywodd y sesiwn y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect gan Open Networks a Gas Goes Green, ac roedd cyfle i roi sylwadau a gofyn cwestiynau i dîm ENA. Yna cafwyd dwy drafodaeth bord gron gynhyrchiol: Cymunedau yn ein system ynni yn y dyfodol a Digideiddio’r Broses Gysylltiadau. Cafodd y cyntaf o’r grwpiau hyn gipolwg ar beth yn fwy y gallai prosiectau Open Networks a Gas Goes Green fod yn ei archwilio er mwyn cael ein rhwydweithiau i fod yn Sero Net, ac yn yr ail grŵp, trafodwyd sut y gallai’r Broses Digideiddio’r Cysylltiadau fod yn fwy addas i sefydliadau cymunedol, ac a fydd yn ei gwneud yn fwy tebygol iddynt fuddsoddi mewn pympiau gwres, Cerbydau Trydan a seilwaith cerbydau trydan.
Dywedodd Farina Farrier, Pennaeth Open Networks y Gymdeithas Rhwydweithiau Ynni:
“Mae dyfodol ynni’r un mor lleol ag ydyw’n genedlaethol, a bydd sicrhau bod ynni cymunedol yn cael ei integreiddio ymhellach i’r prosiect yn helpu Prydain i drawsnewid i gael grid clyfar sy’n gweithio i bawb.
“Mae’r fforymau’n gyfle i grwpiau cymunedol ddod â syniadau, safbwyntiau a rhwystrau yn syth at y rhwydweithiau ar adeg bwysig wrth iddynt adeiladu grid clyfar y wlad. Maen nhw’n caniatáu i’r prosiect Open Networks siarad yn uniongyrchol â’r grwpiau yr effeithir arnynt, gan sicrhau bod eu problemau’n cael eu clywed, a dod o hyd i atebion.
“Hoffwn hefyd ddiolch i Ynni Cymunedol Lloegr am eu cefnogaeth ac edrychaf ymlaen at gymryd rhan yn y Pythefnos Ynni Cymunedol eleni fel rhan o’n hymgysylltu parhaus â grwpiau cymunedol.”
Ychwanegodd Jodie Giles, Uwch Reolwr Prosiect, Regen:
“Rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda ENA ar y fforymau ynni cymunedol hyn unwaith eto eleni. Mae’n wych gweld ENA yn ymgysylltu’n hirdymor â mudiadau cymunedol sydd â chymaint i’w gyfrannu at y trawsnewid i fod yn sero net.
“Mae hwn yn fforwm hollbwysig, lle gall gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu gael adborth ar lawr gwlad, ac i gymunedau allu meithrin eu gwybodaeth a’u gallu. Mae mudiadau ynni cymunedol yn gweithredu fel cyfryngwyr dibynadwy yn ein system ynni, gan sicrhau bod pobl yn cael eu cynnwys yn y broses drawsnewid ac nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.”
Notes to editor
This is a Welsh language version of ENA kicks off 2021 Community Energy Forum series with ‘Getting our networks to Net Zero’ theme.
Nodiadau i olygyddion
- Cynhelir y fforwm nesaf ddydd Iau 22 Gorffennaf, anfonwch e-bost at: Opennetworks@energynetworks.org os ydych chi’n ymarferydd ynni cymunedol ac yn awyddus i ddod i’r digwyddiad.
- Mae prosiect Open Networks ENA yn dod â chwmnïau rhwydweithiau dosbarthu a thrawsyrru trydan at ei gilydd gyda rhanddeiliaid yn y diwydiant, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) a’r rheoleiddiwr ynni Ofgem, i osod y sylfeini ar gyfer y grid clyfar ym Mhrydain Fawr, a llywio datblygiadau yng Ngogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn y dyfodol.
- Bydd rhaglen Gas Goes Green ENA yn darparu’r grid nwy di-garbon cyntaf yn y byd, gan helpu i gyrraedd targed allyriadau carbon sero net y DU. Bydd yn dwyn ynghyd arbenigedd peirianneg pum cwmni rhwydwaith nwy Prydain gyda’r diwydiant ynni ehangach, llunwyr polisïau ac academyddion. Bydd y rhaglen yn gwneud y newidiadau sydd angen i symud seilwaith rhwydwaith nwy Prydain o ddarparu nwy naturiol sy’n seiliedig ar fethan i hydrogen a biomethan di-garbon.
- Mae tîm Arloesi ENA yn nodi technolegau a chyfleoedd newydd sy’n cynyddu effeithlonrwydd gweithrediadau, yn gwella diogelwch cyffredinol, yn darparu rhwydwaith dibynadwy, ac yn helpu i gyrraedd ein targedau sero net.
- Mae Regen yn ganolfan ddim-er-elw annibynnol ym maes arbenigedd ynni a deall y farchnad, a’i chenhadaeth yw trawsffurfio systemau ynni’r byd i sicrhau dyfodol di-garbon.
- Mae ynni cymunedol yn cyfeirio at gyflenwi ynni adnewyddadwy dan arweiniad y gymuned, lleihau’r galw am ynni a phrosiectau cyflenwi ynni, boed y rheini ym mherchnogaeth lwyr ac/neu’n cael eu rheoli gan gymunedau, neu drwy bartneriaeth â phartneriaid yn y sector masnachol neu’r sector cyhoeddus.
- Gallai ynni cymunedol ddenu pobl, nid yn unig fel defnyddwyr ond hefyd fel cyfranogwyr gweithredol, neu bartneriaid, i fod yn rhan o’r broses o newid.
About us
Energy Networks Association (ENA) is the industry body representing the energy networks. Our members include every major electricity network operator in the UK. The electricity networks are at the heart of the energy transition. They directly employ more than 26,000 people in the UK, including 1,500 apprentices. They are spending and investing £33bn in our electricity grids over the coming years, to ensure safe, reliable and secure energy supplies for the millions of homes and businesses reliant on power every day.
Press contacts
You can contact ENA's press office by emailing press@energynetworks.org. For urgent or out-of-hours enquiries from journalists, please call 0204 599 7691.